Casgliad - Contemporary Welsh Design

View Original

Syniadau Anrhegion Casgliad 2022

Wrth galon Casgliad mae angerdd dros gefnogi gwneuthurwyr ac artistiaid unigol. Ni fydd yn syndod felly y bydd ein pwyslais wrth siopa am anrhegion eleni ar siopa’n lleol a rhoi arian yn ôl i’n cymunedau lleol.

Rydym yn ffodus i weithio'n agos gyda chymaint o wneuthurwyr ac artistiaid dawnus. Mae'r Canllaw Anrhegion Cymreig hwn yn ymwneud â'u dathlu nhw a'u gwaith a dangos nad oes angen i chi deithio'n rhy bell na hyd yn oed gadael cysur eich soffa eich hun ar gyfer yr anrheg Gymreig berffaith!

Rydym wedi gwneud siopa am anrhegion i'ch anwyliaid yn haws eleni gyda dau gategori newydd ar dudalen ‘Siop’ Casgliad gyda'r adrannau 'Anrhegion Cymreig dan £25' ac 'Anrhegion Cymreig o dan £50' wedi eu trefnu yn nhrefn pris o isel - uchel er hwylustod pori.

Roedd yn arbennig o heriol rhoi’r canllaw anrhegion hwn at ei gilydd gyda chymaint o anrhegion posibl ar y wefan i ddewis ohonynt. Rydym, felly, wedi dewis ychydig o’n ffefrynnau isod i weddu i bob unigolyn!

Cerameg clai crochenwaith caled Kirsti Hannah Brown o £22

Canhwyllau cŵyr naturiol wedi’u harllwys â llaw Julia Lewis o £24.99

Clustogau a chysgodion lampau print tapestri Cymreig Gwenno Jones o £29

Printiau a byrddau pin Cyfres Her Gymreig Casgliad o £29.99

Cysgodion lampau wedi’u hysbrydoli gan dirwedd Elin Crowley o £44.50

Basgedi helyg naturiol, cynaliadwy Jo Porter o £50

Llwyau caru Cymreig wedi’u cerfio â llaw gydag esthetig cyfoes Ceini Spiller o £127.65