Penwythnos Her Mynydd Cymru - Corcfwrdd Cant Cymru

Daeth penwythnos anarferol o rydd yn y calendr â'r cyfle i ddianc am benwythnos i'r mynyddoedd. Y cynllun: pinio chwe chopa arall tuag at Her Corcfwrdd Cant Cymru.

Yn gyntaf, i gasglu tanwydd hanfodol ar gyfer gweithgareddau'r penwythnos; Stop 1, Ystad Rhug i nôl eu pecyn barbeciw cigydd, a Stop 2, Siop Mynydd Mostyn yng Ngherrigydrudion am lefrith ffres ac ysgytlaeth mefus o Laethdy Mynydd Mostyn. Hanfodion gwersylla wedi'u datrys!

Archebwyd lle gwersylla ym Maes Gwersylla Fferm Garth, dafliad carreg o Gapel Curig, man cychwyn ein heic gyntaf. Ar ôl croeso cynnes gan Telor, daethom o hyd i lecyn tawel i osod ein pabell gyda golygfa wych o Bedol yr Wyddfa, a thanio’r barbeciw. Wrth fynd ymlaen dipyn o amser, roedd ein barbeciw, a oedd wedi llosgi ar y tu allan a dim ond jyst wedi'i goginio yn y canol, yn barod. Roedd yn flasus iawn, er gwaethaf y sgiliau coginio barbeciw amheus.

Yn y bore, cychwynnodd y cyntaf o'n dwy daith gerdded arfaethedig o hen Ffordd Caergybi y tu ôl i Joe Brown's yng Nghapel Curig. Mae’r llwybr yn dilyn dechrau hen Ffordd Caergybi cyn troi i’r chwith yn eich arwain at y trac sy’n dringo i fyny i’r gefnen laswelltog tuag at Gallt yr Ogof (47) ac Y Foel Goch (34). Os ydych chi awydd heic epig, gallwch barhau i gyfeiriad Glyder Fach (6) a Glyder Fawr (5). Dilynom y llwybr a awgrymwyd gan Dafydd Andrews yn ei lyfr 'The Welsh One Hundred' ac aethom i ben Y Foel Goch yn gyntaf lle cawsom fwynhau ein brechdanau ar y copa gyda golygfeydd godidog o Dryfan! Ymlaen â ni wedyn i gopa Gallt yr Ogof cyn disgyn dros dir creigiog, grugog i Gwern Gof Isaf.

Dychwelon ni wedyn i’r man cychwyn ar hyd hen Ffordd Caergybi. Y stop nesaf, Plas Y Brenin am leim a sodas haeddiannol cyn mynd yn ôl i'r maes gwersylla am noson hamddenol.

Dechreuodd diwrnod 2 gyda gyrru i Nant Peris, man cychwyn ein heic nesaf. Y nod: pinio pedwar copa arall – Elidir Fawr (14), Mynydd Perfedd (31), Carnedd Y Filiast (30), a Foel Goch (27). Roedd hi’n ddiwrnod poeth, a’r llwybr ychydig yn fwy serth nag oedden ni wedi’i ragweld a arweiniodd at esgyniad braidd yn araf i fyny llethrau serth Elidir Fawr. Roedd y golygfeydd o'r top yn werth yr ymdrech, ac roedd y daith grib a ddilynodd yn rhyddhad i'w groesawu o'r esgyniad egnïol! Elidir Fawr oedd yr unig gopa i ni ei rannu gydag unrhyw gerddwyr eraill. Ar y tri chopa arall, cawsom y golygfeydd anhygoel i ni ein hunain. Ar ôl dewis ychydig yn amheus o 'lwybr' ar gyfer ein llwybr i lawr, roeddem yn teimlo rhyddhad i fod yn ôl yn y car ac ar y ffordd i leim a soda arall haeddiannol…ac yna cwrw (neu ddau) unwaith yn ôl yn y maes gwersylla!!

Ar y cyfan, penwythnos llwyddiannus o fagio brig a chwe phin arall wedi'i ychwanegu'n foddhaol i'r Corcfwrdd Cant Cymru!

34 wedi'u pinio, dim ond 66 i fynd!

Sara Griffiths



Casgliad. .

Hiking Pinboards & Prints. Welsh prints and gifts to inspire adventures in the great outdoors.

https://www.casgliad.com
Previous
Previous

Syniadau Anrhegion Casgliad 2022

Next
Next

SY23 - Wedi'i Fforio, ffermio neu bysgota